Mae Cyhoeddiadau Aran yn gyhoeddwr cofrestredig
Cyhoeddiadau Aran
Mae'r hawlfraint mewn cerddoriaeth yn eiddo i'w hawduron a'i chyfansoddwyr. Rhaid talu am unrhyw ddefnydd masnachol o’r eiddo deallusol hwn. Er mwyn sicrhau bod y taliadau hyn yn cael eu prosesu'n gywir, a'u bod yn cyrraedd yr artistiaid cywir, rhaid i fanylion perchnogaeth cael ei gofrestru gyda'r MCPS a'r PRS.
Mae Cyhoeddiadau Aran yn Gyhoeddwr Cofrestredig a gall weithredu ar eich rhan trwy:-
Cofrestru eich deunydd gyda'r MCPS/PRS
Casglu a dosbarthu taliadau i awduron/cyfansoddwyr
Hyrwyddo eich deunydd i'w lawn botensial