Llun Cor y Traeth
Llun Cor y Traeth
Offer Recordio ar Leoliad

Recordio ar Leoliad

Ar leoliad mewn neuadd gyngerdd neu eglwys, mae gennym y cyfleusterau i ymateb i unrhyw ofynion. Mae ein hoffer recordio symudol yn cynnwys y cyfleuster i recordio naill ai mewn stereo neu amldrac. Mae hyn yn ein galluogi i wneud defnydd o rai o'r gofodau acwstig gorau sydd fwyaf addas ar gyfer cerddoriaeth glasurol. Mae hefyd yn caniatáu i ni wneud recordiadau mewn lleoliadau sy'n gyfleus i gorau a bandiau lleol.

Ar ôl gwneud recordiadau ym mhob cornel o Gymru a thu hwnt, rydym hefyd yn gallu cynghori ar leoliadau addas. Mae llawer o'r rhain hefyd yn dod gyda phianos ac organau o ansawdd uchel. Os nad oes offeryn addas ar gael rydym yn hapus i drefnu offeryn trwy ein rhwydwaith o arbenigwyr llogi piano. Opsiwn poblogaidd arall yw paratoi traciau cefndir yn y stiwdio cyn canu ‘ar leoliad’ i’r recordiadau hyn gan ddefnyddio ein system chwarae yn ôl.