Adnoddau Llawn
Stiwdio Aran
Mae gennym y cyfleusterau i ymateb i unrhyw ofynion. Mae ein hystafell fyw yn acwstig gwych ar gyfer drymiau, tra bod ffenestr y stiwdio fawr yn cynnal cysylltiad agos rhwng pob aelod o'r band.
Mae Stiwdio Aran yn cynnig:
- 32 llinell meic yn bwydo hyd at 24 sianel o recordio ar yr un pryd trwy ein cymysgydd Tascam DM4800
- Awtomatiaeth yn y cyfrifiadur neu trwy'r ddesg efo 'fader’ symudol wrth gymysgu i lawr
- Golygu digidol
- Meistroli CD a CD+
- Wedi'i leoli mewn adeilad cwbl ynysig sydd wedi'i drin yn acwstig. Mae’r stiwdio yn cynnwys ystafell ‘fyw’ 25 m3 sy’n bwydo Ystafell Reoli 43 m3. Mae lolfa/swyddfa wedi'i lleoli i fyny'r grisiau. Gall hyn hefyd ddyblu fel bwth lleisiol ychwanegol.
- Mae Stiwdio Aran hefyd yn cynnig cyfleusterau cegin a thoiled a pharcio oddi ar y ffordd.
Ystod Eang o Offer
Mae'r Offer sydd ar gael yn cynnwys:
- Cymysgydd Tascam DM-4800
- 2 x sianel llais Pecyn Sesiwn ISA 220 Focusrite
- Apple Logic yn rhedeg ar Apple Studio gyda 64Gb o RAM
- Uchelseinyddion 5A HHB
- Aphex Studio Dominator 2 cyfyngydd stereo
- Mics gan Rode / AKG / Sennheiser / Shure
- Detholiad o mics falf
- Suite Plug-in Sonnox
- Piano Yamaha U1
- Drymiau TAMA
- Bas Stingray 5 tant gan Musicman
- Bas Fender Precision (1976)
- Bas Fretless Aria SB1000 ‘Pro II’
- Gitâr modelu Line 6 Variax 600
- Gitâr Acwstig ‘Saturn' Faith
- Gibson A3 Mandolin (1918)
- Banjo Tenor gan Ozark
- Bysellfwrdd rheolydd pwysol llawn Kurzweil PC88mx
- Modiwl synth Roland JV2080
- Modiwl synth Yamaha TX802
- Ampiau ar gyfer gitâr a bas gan Markbass, TC Electronics, Peavey, H+H, Orange.
- Cyn-amp Line 6 POD xt Pro gitâr
- Cyn-amp Line 6 POD xt Pro bas