Herio Disgwyliadau'r Cyfryngau Cymdeithasol
Mae Maddy Elliott yn dychwelyd gyda “Trio Plesio Pawb”, trac wedi’i ysbrydoli gan cerddoriaeth werin a’r blŵs sy’n archwilio hunaniaeth, hunanwerth, a’r pwysau i ffitio i mewn i fyd o ddisgwyliadau sy’n newid yn gyson.
Trwy ddisgrifio sefyllfaoedd emosiynol, mae’r gân yn myfyrio ar y pwysau a roddir ar bobl ifanc, yn enwedig menywod ifanc, i edrych, ymddwyn, a chyflwyno eu hunain mewn ffordd benodol. Mewn oes sydd wedi’i llunio gan gyfryngau cymdeithasol a chymhariaeth, mae’r gân yn adlewyrchu ar y pryderon o deimlo’n ddatgysylltiedig, cwestiynu eich hunaniaeth, a’r her o geisio datblygu’n rhywun a fydd yn cael ei dderbyn.
Mae “Plesio Pawb” yn ein hatgoffa bod chwilio am gymeradwyaeth yn dasg amhosibl. Mae’r trac yn annog gwrandawyr i ollwng gafael ar y pwysau o fod yn ‘bopeth i bawb’ a chofleidio’r rhyddid i dderbyn pwy ydyn nhw.
Gan gyfuno cynhesrwydd gwerin â dyfnder emosiynol y blŵs, mae Maddy Elliott yn cyflwyno cân bersonol efo neges i bawb sydd erioed wedi teimlo’r angen i brofi eu bod nhw’n perthyn.
