Adnabod ti - Maddy Elliott
I ddathlu dydd Miwsig Cymru 2025, dyma sengl newydd gan Maddy Elliott sy’n dilyn llwyddiant mawr ei sengl gyntaf, ‘Torri Fi’ a rhyddhawyd yn ystod mis Medi flwyddyn ddiwethaf.

Mae arddull y gân yma yn dangos dylanwad roc annibynnol, yn llawn gitarau yn seinio fel clychau. Yn eu cefnogi mae bas a drymiau sy’n gyrru’r rhythm yn bendant, ac yn gyson.
Yn dechrau’n dywyll mae’r gân yn tyfu i uchafbwynt nerthol dramatig, pryd mae llais Maddy yn debyg iawn i Kate Bush yn ei hanterth. Yna mae’r awyrgylch yn newid yn sydyn gyda’r drymiau bron yn diflannu a’r offerynnau yn atsain llinellau byrfyfyr y llais. Mae hwnnw’n arwain i ddiweddglo pwerus gyda’r drymiau yn ail ymuno a harmonïau hyfryd yn ailadrodd y teimladau o ansicrwydd sy’n destun i ‘Adnabod ti’.