O Dan yr Wyneb

O Dan yr Wyneb

Bydd ail albwm Emma Marie yn cael ei ryddhau ar Hydref y pumed ar hugain 2021 ac mae’r albwm yma dipyn yn wahanol i’r cyntaf - ‘Deryn Glan i Ganu’ cafodd ei ryddhau yn 2018. Mae yna amrywiaeth o ganeuon sy’n dangos yr ochr arall i gymeriad Emma, yr ochr hwylus, llawn bywyd ac yn aml yn ddoniol. Mae’r trac cyntaf  ‘Hogan dre yn y wlad’ yn esiampl o hyn; yn trafod yr anhawster digri sy’n wynebu hogan ifanc wrth iddi drafod llwybr gwledig, cefn gwlad. Mae’r trac diwethaf yn ddeuawd gyda Phil Gas, ac mae’r teitl ‘Hanner Call’ yn esbonio pob dim amdani.  

 “Mae’r peidio gigio trwy’r cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn i ni  gyd fel artistiaid” meddai Emma, “ond dwi wedi defnyddio'r amser yna i gyfansoddi mwy o ganeuon”.

Mae’r casgliad yma hefyd yn cynnwys baledi - ‘Gweddi ger y lli’, caneuon serch - ‘Clo Ar Dy Galon’ a hyd yn oed cân werinol - ‘Llyncu’r Abwyd’ sy’n rhestri idiomau tlysaf Pen Llŷn.

“Mae yna gân tu ôl i bob profiad mewn bywyd” meddai Emma. “Am fy mod i wedi bod trwy fwy o brofiadau ers yr albwm cyntaf rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a hynny sydd yn helpu fi yn bersonol i gyfansoddi”.

 “Diolch i bob un sydd wedi gadael eu marc ar yr albwm yma. Diolch i’r cerddorion i gyd am eu gwaith ffantastig a phroffesiynol: Ged Lynch , Huw Roberts ,Sara Owen, Wyn Pearson, John Williams, Pwyll Ap Sïon, Emyr Rhys a Phil Gas wrth gwrs!. Hefyd i Alun Roberts am y trefniadau , Dewi Wyn am y lluniau ac Almon am gynllunio’r clawr”.

“Diolch yn fawr iawn i’r gwrandawyr a phawb sydd wedi fy nghefnogi i, gobeithio gwnewch chi fwynhau'r albwm”.