O’r Dyffryn i Dre

Phil Gas ar Daith o'r Cyfnod Clo

Mae taith yr albwm newydd, fel nifer o recordiau dros y cyfnod diwethaf wedi bod yn llwybr troellog iawn. Ers rhyddhau'r record hir ddiwethaf - ‘O Nunlla’ yn 2018, mae’r band wedi rhyddhau dwy sengl. Yn gyntaf fe ryddhawyd Mesen Fach yn 2019 i ddathlu dyfodiad Tudur Huws Jones i’r band. Yna daeth cofid -19 ac yn y bwlch byr rhwng cyfnodau clo fe lwyddwyd i ryddhau  ‘Ar gyfer heddiw’r bore’ yn 2020.

O'r Dyffryn i Dre

Ond roedd llawer iawn o ddeunydd arall yn cael ei baratoi, gyda’r band yn cysylltu dros y we ac yn anfon ‘demos’ i’w gilydd. Erbyn hyn mae’r ddwy sengl ddigidol yna yn cael ei ryddhau ar CD am y tro cyntaf, ochr yn ochr â 8 cân newydd sbon.  

“Mae wedi bod yn frwydr cael hwn i’r lan” meddau Phil. “Ychydig iawn sydd wedi recordio gyda ni i gyd yn y stiwdio'r un pryd, ac roedd y record hir ddiwethaf bron yn hollol ‘fyw’. Ond mae yna ddatblygiad mawr wedi bod yn sŵn y band a chyfraniad Tudur fel cyfansoddwr yn un werthfawr iawn i ni.”

Daw geiriau un o’r caneuon gan y Prifardd Meirion MacIntyre Huws - ‘Dwi’n ifanc dyna pam’ tra bod y geiriau ar gyfer ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’ yn un o gerddi Mynyddog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer caneuon gan Phil yn dod o rywle’n agosach i’w cynefin ac mae Cân i Mel yn esiampl arall o hwnnw. Yn deyrnged arall i un o gymeriadau fwyaf Dyffryn Nantlle.