Torri Fi cym

Torri Fi - Maddy Elliott

Mae artist newydd Gymraeg, Maddy Elliott ar fin ryddhau ei EP cyntaf “Torri Fi” ar ddydd Gwener yr unfed ar bymtheg o Awst. Wedi’i leoli ym mhentref bach Llanfair Talhaiarn, mae Maddy newydd gwblhau flwyddyn o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth fel rhan o’i radd cerdd ym Mhrifysgol Efrog.

Torri Fi Artwork

Bu’n gweithio yn Stiwdio Aran yn cefnogi artistiaid eraill fel Alis Glyn ac yn ennill profiad o gynnal digwyddiadau trwy hefyd weithio i Beacons Cymru.

Ar ei drac cyntaf, mae Torri Fi yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan gerddoriaeth pop yr 80au gyda llinellau synth llachar a geiriau bachog. Mae ail drac yr EP - "Gwahanol" yn dangos dylanwad jazz modern a ffync, gyda llinell fas groovy a riffs sacsoffon.

Trwy gymorth Pyst a Lŵp bydd fideo ar gael i gefnogi trac ‘Torri Fi’. Cafodd y fideo ei baratoi gan y cyfarwyddwr Meilyr Rhys yn dilyn premiere ei ffilm fer gyntaf  ‘Y Pitch’ yn Chapter, Caerdydd ar ddechrau mis Gorffennaf. 

Ysbrydoliaeth y gân ydy hanes y cymeriad ‘Ophelia’ yn nrama ‘Hamlet’ gan Shakespeare. Mae clawr yr EP (uchod) yn ceisio efelychu y darlun eiconig o Ophelia a wnaed gan John Everett Millais, a hwnnw yn ei tro oedd man cychwyn y driniaeth fideo.

ohn_Everett_Millais_-_Ophelia

Mae Maddy wedi bod yn datblygu ei set trwy berfformio o gwmpas Gogledd Cymru mewn tafarndai a lleoliadau bach eraill. Yn fis Medi bydd cyfle iddi droedio i lwyfan fwy wrth iddi ymddangos mewn Gŵyl Gymreig o’r enw “Gŵyl Saith” a rhannu llwyfan efo’r Candelas.