Ar gyfer heddiw’r bore

Mae ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ yn garol plygain Gymraeg, gyda'r geiriau wedi eu sgwennu gan David Hughes (Eos Iâl) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd recordiad enwog iawn ohoni ei wneud gan Barti Froncysyllte yn 1967 yn yr arddull plygeiniol. Ers hynny mae wedi cael ei recordio gan nifer o artistiaid, gan gynnwys Hogia’r Wyddfa, Meredydd Evans a Bryn Terfel. Mae’n ddigon naturiol felly bod Phil Gas yn cymryd ei le ymhlith y mawrion, efo’r fersiwn unigryw yma.