Plu’r Gweunydd

Siwan Llynor - Plu'r Gweunydd

Mae’n debyg mai fel actores yr adnabyddir Siwan Llynor yn bennaf. Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae gwylwyr S4C wedi mwynhau dilyn hynt a helynt y cymeriad bywiog Cheryl Gurka yn y gyfres deledu ‘Tipyn o Stad’. Mae Siwan er hynny, eisoes wedi ffilmio ei golygfeydd olaf ar gyfer y gyfres hon er mwyn canolbwyntio ar ei cherddoriaeth a phrosiectau eraill. Man cychwyn y cyfnod newydd yma yn ei gyrfa yw rhyddhau ei record cyntaf ‘Plu’r Gweunydd’ ar label Aran

Siwan Llynor - Plu'r Gweunydd

Nid yw Siwan Llynor yn enw newydd ym myd y canu. Ymddangosodd yn flaenllaw yn y ddrama gerdd ‘Er Mwyn Yfory’ gan Gwmni Theatr Maldwyn. Cafodd y fraint o ennill Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis am ganu alawon gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod  Tra’n y Brifysgol arferai ganu llais cefndir i Mim Twm Llai ac ymddangosodd ei llais ar CD’r band ‘Ysbryd Chouchen’. Cyfansoddwyd y gân ‘Plu’r Gweunydd’ gan Gai Toms (Mim Twm Llai) a Dewi Prysor yn arbennig ar gyfer y record yma. 

Mae’r cefndir gwerinol yn amlwg trwy’r casgliad yma: o’r trefniant melfedaidd o ‘Ar Lan y Môr’ gan Nathan Williams i’r ‘Y Deryn Pur’ gan y delynores Carys Owen. Ymddangosai’r delyn eto ar ‘Y Caeau Aur’, cyfieithiad hynod gan Iwan Llwyd o ‘Fields of Gold’. Cyhoeddir y gân yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg trwy ganiatâd personol Sting.

Erbyn hyn mae Siwan yn gweithio i wahanol fudiadau gyda phlant a phobl ifanc ar brosiectau cerdd a drama. Yn dilyn gweithio â merch ifanc ar brosiect drama yn Aberystwyth ysbrydolwyd hi i gyfansoddi ‘Cân Gwen’. Siwan sydd hefyd yn gyfrifol am ‘Creu Darlun’ a ‘Diwrnod Braf’. Maent yn ganeuon gwahanol iawn o ran arddull a naws sy’n dangos dylanwadau amrywiol o’r byd clasurol, opera, gwerin, roc a jazz.

Un o ragoriaethau’r CD hwn a gynhyrchwyd gan Emyr Rhys yw’r cyfoeth offerynnol. Mae cyfraniad y cerddorion; o’r piano, telyn, chwyth i’r gitar o’r safon flaenaf. O’r byd jazz clywir cyfraniadau gan y pianydd adnabyddus Huw Warren ac o Gerddorfa Philarmoneg Lerpwl daw utgorn Rhys Owens i gloi’r record.

Cymaint yw’r amrywiaeth a’r dylanwadau gwahanol yn y casgliad hwn fel bod yma rywbeth at ddant pawb!