Pwy Wyt Ti?

EP cyntaf yr artist ifanc o Gaernarfon yn dangos cyfoeth ei allu cerddorol

Er mae EP gyntaf Alis Glyn yw'r casgliad yma, mae'n hir ddisgwyliedig. Mae’n ffrwyth dros flwyddyn o waith yn y stiwdio ac yn cynnwys rhai o’i chaneuon mwyaf adnabyddus. Daw ryddhau'r EP yn union wrth i Alis dychwelyd o drip i Batagonia, lle cafodd hi’r cyfle i rannu llwyfan efo Elidir Glyn o ‘Bwncath’.

 

Alis Glyn EP cover art

Ond mae blwyddyn yma wedi dod a nifer o gyfleoedd newydd iddi. Bu’n ymddangos yng Ngŵyl Tafwyl, ar lwyfan y Galeri yng Nghaernarfon, yn Gig UMCB yn Pontio ac fe enillodd le yn y pedwar olaf yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau ac ymddangos ar Lwyfan Maes y Brifwyl ym Moduan yn Awst 2023. Nid dyma’r tro cyntaf i Alis derbyn cefnogaeth gan yr Eisteddfod, llynedd bu’n cymryd rhan mewn gweithdai ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ sy’n brosiect ar y cyd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach.
Mae ffrwyth yr holl waith yma i’w chlywed yn y casgliad yma, sy’n dangos arddull a gweledigaeth sicr iawn. Fe glywn lais ifanc yma sy’n edrych ar y byd efo gonestrwydd a brwdfrydedd hyfryd. Ond eto mae yna grefft i’r caneuon sy’n drawiadol iawn ac yn datgan bod arwyddocâd i’r casgliad cyntaf yma. Mae Alis yn gosod ei stamp yn bendant ar y sin, gyda llawer iawn mwy i gynnig eto.