Awyr lach

Chwa o ‘Awyr Iach’ gan y cerddor Ynyr Llwyd

Hamddena yn yr awyr iach yng nghanol prysurdeb bywyd yw ysbrydoliaeth y cerddor proffesiynol o Ddyffryn Clwyd, Ynyr Llwyd, wrth iddo gyhoeddi ei albwm byr newydd, 'Awyr Iach'.  Dyma ei drydydd albwm, ac mae aeddfedrwydd yr artist/gyfansoddwr ifanc i'w weld yn glir ar y casgliad yma gaiff ei ryddhau ar label Recordiau Aran. Wedi arbrofi gydag arddulliau cerddorol dros y blynyddoedd, dywed ei fod wedi darganfod ei sain wrth gyfansoddi a chreu'r albwm newydd, sef sain pop a roc acwstig ysgafn.

Awyr Iach CD cover
Awyr Iach clawr blaen

"Mae pob artist yn aeddfedu gan dynnu ar ei brofiadau, a dwi'n teimlo mod i wedi darganfod fy llais yn yr EP newydd", eglura Ynyr, 27 oed. "Roedd hi'n grêt cydweithio efo criw o gerddorion eraill yn y stiwdio wrth roi'r casgliad diweddara at ei gilydd. Mi ges i'r cyfle i gyd-gynhyrchu'r traciau efo Emyr Rhys yn Stiwdio Aran, gan mod i'n mwynhau'r elfen honno o'r broses hefyd. Mi ddefnyddiom ni fand byw i recordio er mwyn ceisio rhoi mwy o gymeriad i'r caneuon, ac yn ogystal â'r offerynnau arferol fel gitarau, drymiau ac allweddellau, rydan ni wedi cynnwys ambell offeryn difyr arall fel y banjo a tiwba ar rai o'r traciau. Mae digon o amrywiaeth yma o ran steil a thempo, felly gobeithio caiff y gwrandawyr fwynhad o glywed y deunydd newydd."

Mae digon o amrywiaeth ym mywyd Ynyr ei hun hefyd, gan ei fod bellach yn rheolwr ar y band function proffesiynol 'The Right Stuff', ac yn cadw'n brysur yn cynnal gweithdai cyfansoddi mewn ysgolion. "Dwi'n hynod o ffodus o fod wedi cael cyfleoedd arbennig fel cerddor efo'r band 'The Right Stuff' gan deithio a pherfformio ar fordeithiau i Ynysoedd y Caribî, America, Y Med a Sgandinafia yn y gorffennol.

Erbyn hyn, teithio Prydain ydyn ni gan fwyaf yn perfformio mewn gwahanol ddigwyddiadau a phriodasau. Yr amrywiaeth o fewn y gwaith sy'n apelio'n fwy na dim - un wythnos mi fyddwn ni'n perfformio mewn plasdy i fyny yn yr Alban, a'r wythnos ganlynol mi fyddwn ni'n diddannu mewn priodas ar gwch Elizabethan yn hwylio ar y Thames" eglura Ynyr.

Efallai mai dilyn ôl troed ei fam, y gantores a'r hyfforddwraig canu adnabyddus, Leah Owen, y mae Ynyr wrth gydweithio â phobl ifanc mewn ysgolion.

Gyda'i radd feistr mewn cyfansoddi o Brifysgol Bangor yn 2011, mae'n falch o allu cynnig arweiniad i ddisgyblion cerdd TGAU a Lefel A sydd angen cymorth gyda'u gwaith cyfansoddi mewn ysgolion uwchradd yng ngogledd Cymru. Mae'r gŵr ifanc sydd bellach yn briod wedi cyfansoddi ar gyfer nifer o artistiaid yn y gorffennol, gan gynnwys y gân 'Adre'n ôl' ar gyfer seren y sioeau cerdd, Mark Evans, a aeth ar y pryd yn syth i bumed safle yn siart 'World Music' iTunes. Yn ogystal â chyfansoddi caneuon, bydd Ynyr yn creu cerddoriaeth offerynnol ar gyfer prosiectau cyffrous eraill fel cynyrchiadau dawns dramatig, a chyfansoddi gweithiau ar gyfer y cyfryngau fel cyfres 'Y Sipsiwn' ar S4C.

"Mae'n deimlad braf cael rhyddhau caneuon newydd eto ar ôl seibiant o'r recordio. Daeth rhai o'r caneuon ar yr albwm i mi ar ôl wythnos brysur o waith a mynd allan am dro i'r awyr iach. Ac mi gawson ni dipyn o hwyl yn dod â phrif gân yr albwm, 'Awyr iach' yn fyw. Mae'r steil yn eithaf gwahanol i'r arfer" eglura Ynyr.

Mae yna draciau bywiog fel 'Am y Tro' a 'Lliwiau' ar yr albwm, yn ogystal â chaneuon mwy hamddenol fel 'Cysur' a 'Mynd dy Ffordd dy Hun'. Mae'r trac 'Un Lleuad' yn sôn am y pellter fu rhyngddo â'i gariad wrth dreulio cyfnod ar wahân, ond bod y ddau yn gweld yr un lleuad ym mha bynnag ran o'r byd yr oedden nhw. Mae'n drac llawn emosiwn gyda'r lleisiau cefndir a sain gyfoethog y gitâr yn ychwanegu at neges Ynyr yn y gân.
"Mae 'Am y Tro' yn gân sy'n dweud sut y gall y pethau sy'n poeni rhywun heddiw ymddangos yn fach a di-bwys erbyn yfory - wrth roi pethau mewn persbectif. Mae'n gân fywiog a bachog gyda'r neges bod yfory ar ei ffordd ac nad oes gennym ni syniad be sy'n ein wynebu, felly waeth i ni heb â phoeni am bethau bychain.

Er bod Ynyr wedi perfformio a chyfarfod enwogion fel Ronan Keating a Will.i.am yn ystod ei yrfa, ac wedi perfformio mewn llefydd anhygoel fel unig westy saith seren y byd yn Dubai, mae'r cerddor o Brion ger Dinbych yn falch o'i gefndir a'i allu i gyfansoddi a pherfformio yn y Gymraeg.
"Dwi'n hynod o ffodus o gael amrywiaeth yn fy ngyrfa, a'm gobaith i ydi parhau i ennill bywoliaeth fel cerddor proffesiynol yma yng Nghymru a thu hwnt', meddai Ynyr.

Dyddiad ryddhau: Tachwedd 16 2015