Cilfach

Mae'r cyfansoddwr caneuon ifanc Ynyr Llwyd yn ail-sefydlu rôl y piano

Ar 6ed Hydref, bydd Recordiau Aran yn rhyddhau 'Cilfach', EP cyntaf y canwr/cyfansoddwr Ynyr Llwyd. Mae’r caneuon ar yr EP yn dangos ei ddawn i gyfansoddi deunydd gwreiddiol a chyfoes wrth y piano.

"Mae 'na gymaint o fandiau ifanc yn defnyddio gitâr, bas a drymiau," meddai Ynyr, "ond prin fod unrhyw bianyddion yn cyfansoddi yn y bandiau yma. Mewn ffordd, dwi'n ceisio codi proffil yr offeryn, er mwyn ymestyn ei ddefnydd y tu hwnt i'r arddulliau clasurol y mae fel arfer yn gysylltiedig â nhw".

Cd cover for Cilfach
Cilfach by Ynyr Llwyd

Serch hynny, mae Ynyr yn dychwelyd at y piano gan ei fod yn fwyaf adnabyddus fel gitarydd gyda'r grŵp "Labrinth". "Rwyf wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers yn ifanc iawn, ar y piano a'r gitâr, ond mae'r piano yn parhau i fod agosaf at fy nghalon". Roedd ei frawd Rhys hefyd yn aelod o’r band, ac mae ei fam Leah Owen yn gantores werin a phenillion o fri. "Rwy'n sicr yn dod o deulu cerddorol, sydd wedi cael dylanwad mawr ar fy mywyd".

Cyn bo hir bydd Ynyr yn dychwelyd i Brifysgol Bangor i gwblhau ei flwyddyn olaf o astudiaethau mewn Cerddoriaeth. Fel rhan o’i gwrs, mae wedi cyfansoddi ar gyfer y grŵp lleisiol ifanc – Enfys. Mae dau aelod o’r grŵp hwnnw, Jade Louise Davies a Mared Thomas, i’w clywed ar yr EP. Cynhyrchwyd yr EP gan ffrind personol, Wyn Pearson, sy'n gitarydd sesiwn proffesiynol ac yn gyn-enillydd "Medal y Cerddorion" yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y cerddorion amlwg eraill yw Matty Roberts ac Emyr Rhys ar y drymiau a'r bas.

Unwaith y bydd Ynyr wedi gorffen ei astudiaethau, ei nod yw parhau yn y math hwn o waith. "Ar hyn o bryd mae lle i'r arddull yma o gerddoriaeth yn y Sîn Roc Gymraeg." A phwy yw ei ddylanwadau cerddorol? "Ers cymryd diddordeb mewn canu a'r piano, dwi wedi tyfu i werthfawrogi artistiaid fel Huw Chiswell ac Elton John".