Yn dilyn llwyddiant ei record hir gyntaf 'Deryn Glân i Ganu' yn 2018 mae Emma Marie wedi bod yn brysur iawn yn canu ar hyd a lled y wlad. Mae canmoliaeth arbennig i’w chaneuon gwreiddiol sydd yn yr arddull 'soul' a gwlad. Gwahoddwyd hi i ysgrifennu cân yn arbennig ar gyfer record olaf John ac Alun - 'Cyrraedd y Cychwyn'. Enw’r gân honno yw ‘Cuddio o’r Diafol’ ac mae eisoes yn ffefryn ymhlith cefnogwyr yr hogia.
Mae Emma bellach yn brysur yn ysgrifennu casgliad o ganeuon newydd ar gyfer y record nesaf ond yn y cyfamser dyma rhagflas. Yn y gân hon mae hi'n mabwysiadu cymeriad arall, nid person ond coeden fawr gref. Mae'n syniad diddorol a rhyfeddol sy'n ein gwahodd i edmygu rhyfeddodau byd natur.
Mae yna wahaniaeth yn arddull y gân yma hefyd, gydag arlliw o jazz ysgafn yn rhedeg drwyddi. Yna yng nghanol y gân mae adran ychydig yn fwy adlewyrchol. Mae’r arddull yn llawn effeithiau stiwdio egsotig ac yn ein hatgoffa o ganeuon seicedelig y 60au. Gyda’r gân hon mae Emma yn torri tir newydd, ac yn plannu coeden fendigedig yn ei chanol.