Ym Mhontypridd mae 'Nghariad - Emyr Gibson + Carys Owen
I ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Bontypridd blwyddyn yma mae Recordiau Aran yn rhyddhau dau fersiwn o drefniant yr alaw werin eiconig ar Orffennaf y 5ed 2024.
Cafodd y fersiwn gwreiddiol o’r recordiad yma ei baratoi i Emyr Gibson ar gyfer y record gafodd ei ryddhau ar y cyd efo’i chware Siân Wyn Gibson o’r enw ‘Perthyn’.
Yna flwyddyn yn ddiweddarach bu Carys Owen, un o gyfansoddwyr y trefniant baratoi fersiwn offerynnol ar gyfer ‘Y Briodas Gymreig’. Mae’r CD yma yn gasgliad o ddarnau sy’n addas i’w ddefnyddio yn ystod seremoni briodasol ac yn cynnwys amrywiaeth mawr o gerddoriaeth yn cael ei berfformio gan naill ai Carys neu’r organydd Huw Williams.
Mae egni a brwdfrydedd yn llenwi’r recordiau yma. Clywir nifer o offerynnau traddodiadol ac acwstig fel y delyn, ffidil, pib, bodhran, gitâr a mandolin. Ond mae’r rhythmau a’r harmonïau cyfoethog yn llawer mwy modern. Yn union fel mae’r Eisteddfod yn parchu ei thraddodiad wrth geisio cydnabod diwylliant poblogaidd, cyfoes.