Ffrindiau’r Wyddor

Dewch i ganu a chwarae gyda.... Ffrindiau’r Wyddor

Casgliad o ganeuon amrywiol sy'n cyflwyno llythrennau'r wyddor Gymraeg mewn modd ysgafn, syml a hwyliog. Mae pob llythyren yn gysylltiedig a chymeriad arbennig ac mae'r alawon a'r geiriau ynghyd a'r cyfeiliant lliwgar yn fodd cyffrous i blant ddod yn gyfarwydd a'r llythrennau i gyd. Mae cyfle hefyd i wrando ar yr alawon heb y geiriau. Cyfle da felly i symud, dawnsio a bod yn greadigol. Mae'n gyfle hefyd ir plant ganu yn unigol, mewn grŵp neu berfformio ar y cyd gyda theulu, ffrindiau neu athrawon.

clawr_Ffrindiau_bach
Ffrindiau'r Wyddor CD cover

gyda Dewi Pws, Siân James, Emyr Gibson ac Elin Llwyd

Gan fod y C.D. yn un aml gyfrwng, gellir ei gosod mewn cyfrifiadur, a dim ond i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar y clawr gallwch gael copi o'r geiriau a'r gerddoriaeth.

Ysgrifennwyd y geiriau a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gwenfydd Williams yn ystod ei chyfnod yn Athrawes Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Dewi Sant y Rhyl. Roedd y plant bob amser yn canu, symud, dawnsio a chael sbort a dywed Gwenfydd ei fod yn gyfle a dull llwyddiannus iawn i ddysgu iaith, yn enwedig felly i blant oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Roedd y plant yn mynegi eu hunain gyda'r gerddoriaeth ac yn cofio synau'r llythrennau wrth chwarae a chanu gyda chymeriadau'r caneuon. Defnyddiwyd y caneuon wedyn i greu cynllun "Ffrindiau'r Wyddor" ac ychwanegwyd storïau at y caneuon. Erbyn hyn defnyddir y cynllun mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru i ddatblygu iaith, llythrennedd a sgiliau ysgrifennu yn y Cyfnod Sylfaen.

 

Cyn ei ymddeoliad roedd Gwenfydd yn Athrawes Ymgynghorol gyda'r Tîm Cyfnod Sylfaen yn Sir Ddinbych ac yn argyhoeddedig fod dysgu trwy chwarae, symud, cymeryd rhan weithredol a chael hwyl, yn rhan allweddol a hanfodol o ddatblygiad pob plentyn. Dyma reswm da felly i recordio'r caneuon o'r newydd gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael mewn stiwdio fodern.

1. Arthur yr Arth
2. Ben Broga
3. Cledwyn y Clown
4. Chwit-Chwat Chwilen
5. Daniel Draenog
6. Y Ddraig Ddel
7. Elis yr Eliffant
8. Falyri y Falwen
9. Ffion y Fflamingo
10. Gari Gorila
11. Fy Ngafr
12. Henri Hipo
13. Iola’r Iâr
14. Jim Jiraff
15. Lowri Lindys
16. Llywelyn y Llew
17. Mici’r Mwnci
18. Neli Neidr ydw i
19. Olwen yr Octopws
20. Penri y Parot
21. Brenhines ydy Phyllis
22. Robin Robot
23. Rhodri Rhino
24. Sali Seren
25. Sioncyn bach y gwair
26. Twm Teigr
27. Bore da Thelma
28. Urien yr Udfil
29. Wil Wirion
30. Ynyr yr Ysgyfarnog